Coedwig gwyllt brith arianresog
Ym Mhrydain mae’r brith arianresog yn Rhywogaeth o Bryder Cadwraethol. Oherwydd newidiadau mewn dulliau rheoli coetiroedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r rhywogaeth hon, a arferai fod yn gyffredin iawn, bellach ar drai. Roedd i’w gael ar draws Cymru a Lloegr ar un adeg ond erbyn heddiw mae’n fwyaf cyffredin yn ne a de-orllewin Lloegr. Enw Brith arianresog (Argynnis paphia) Bywyd Cynefin Mae’r brith arianresog yn byw mewn llennyrch cysgodol heulog mewn coetiroedd llydanddail. Gall y glöynnod hefyd ddefnyddio gwrychoedd sydd wedi gordyfu, ger coetiroedd. Ffurfiant gymunedau ar wahân ac anaml y symudant o un coetir i goetir arall. Bridio Dodwyir wyau unigol ar foncyffion coed, mewn cilfachau a mwsogl. Datblygiad Mae’r lindys yn dodwy ac yn cysgu drwy’r gaeaf. Yn y gwanwyn maent hwy’n syrthio i’r ddaear ac yn bwydo ar y fioledau. Bydd yr ieir bach yr haf aeddfed yn hedfan rhwng mis Mehefin a mis Awst. Ymborth Mae’r lindys yn bwydo ar y gwiolydd cyffredin mewn coetiroedd a’r glöynnod ar neithdar mieri. Bygythiadau Oherwydd newidiadau mewn dulliau rheoli coetiroedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r rhywogaeth wedi dirywio. Mae’r arfer traddodiadol o goedlannu a fu’n fodd i gynnal natur agored llawer o goetiroedd wedi dirywio. Nid yw coetiroedd llydanddail yn cael eu rheoli’n effeithiol, gyda’r canlyniad eu bod yn mynd yn dywyll a chaeëdig. Adnabod Enwyd y brith arianresog ar ôl y rhesi arian o dan ei adenydd. Mae’n hedfan yn gyflym, gan blymio’n rheolaidd. Sut y rheolwn ein coetiroedd Mae’r Comisiwn Coedwigaeth, gan gydweithio’n agos â Chadwraeth Glöynnod, yn rheoli coetiroedd drwy goedlannu rhannau ohonynt i gynhyrchu coed o wahanol faint. Mae hyn yn darparu amryw o gynefinoedd ac yn sicrhau bod y planhigion y mae’r glöyn yn bwydo arnynt yn ffynnu. Drwy deneuo coed ar raddfa fawr mae bylchau’n cael eu creu yn y canopi a’r rhodfeydd i alluogi’r glöynnod i symud yn rhydd a chreu cymunedau newydd.
Lle i weld brith arianresog yng Nghymru
|